Mae'r dudalen hon yn disgrifio arfer gorau. Nid yw'n esbonio'r gyfraith

1. Trosolwg

Nid yw bob amser yn hawdd recriwtio'r bobl sydd eu hangen arnoch i helpu'ch busnes i ffynnu. Felly, mae cadw a datblygu talent yn eich busnes yn bwysig.

Mae HSE wedi datblygu egwyddorion i'ch helpu i gefnogi gweithwyr anabl a gweithwyr â chyflyrau iechyd hirdymor i gael gwaith ac aros mewn gwaith. Byddwn yn cyfeirio at y ddau fel 'gweithwyr' yn y canllawiau hyn.

Mae’r egwyddorion yn cynrychioli arfer gorau ac yn mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Bydd eu dilyn yn eich helpu i ddatblygu diwylliant gweithle cefnogol sy'n galluogi.

Cyngor ar gyflyrau penodol

Mae'r canllawiau hyn wedi'u cynllunio i helpu i gefnogi pob gweithiwr. Os hoffech gael cyngor ar gyflyrau penodol, ewch i wefan y GIG.

Cyngor ar gyfer sefyllfaoedd penodol

Mae canllawiau yng ngwasanaeth Cymorth y llywodraeth ynghylch iechyd ac anabledd cyflogeion ar GOV.UK[9]. Defnyddiwch y gwasanaeth hwn gan y llywodraeth i weld canllawiau yn seiliedig ar eich sefyllfa. Mae'n cynnwys pethau megis:

  • rheoli absenoldebau a chadw mewn cysylltiad
  • cael sgyrsiau gyda'ch cyflogai yn y gwaith ac allan o’r gwaith
  • diogelu eich busnes a'ch gweithwyr gyda pholisïau a gweithdrefnau
  • rheoli sefyllfaoedd cymhleth
  • egwyddorion i'ch helpu i adeiladu gweithle cefnogol a chynhwysol
  • cadw talent

Mae buddsoddi yn iechyd a lles gweithwyr yn arwain at weithlu hapusach a mwy cynhyrchiol. Gall hyn eich helpu i gadw talent.

Ystyriwch sut y gall eich gweithle gefnogi pob gweithiwr trwy gydol ei gyflogaeth. Gall cael gwared ar rwystrau sy'n atal gweithwyr rhag cyflawni eu dyletswyddau helpu pobl i aros a ffynnu yn eu rôl. Gall hyn gael effeithiau sylweddol, cadarnhaol ar unigolyn a'r busnes.

Sgyrsiau gyda gweithwyr

Rydym wedi datblygu templedi y gallwch eu defnyddio i ddechrau sgyrsiau ymarferol gyda gweithwyr. Nid oes fformat caeth ar gyfer y sgyrsiau a gallant ffitio i mewn i gyfarfod un-i-un presennol neu gyfarfod newydd.

Nid oes rhaid i chi ganolbwyntio ar bob egwyddor ym mhob trafodaeth gyda'ch gweithiwr.

Gallwch ddefnyddio cwestiynau o wahanol egwyddorion ar gyfer sgyrsiau ehangach gyda'ch gweithwyr.

Mae sgwrs dda yn dibynnu ar fod reolwyr a gweithwyr fel ei gilydd yn agored ac yn onest. Dylai rheolwyr wrando ar yr hyn sy'n cael ei ddweud a chytuno ar bwyntiau gweithredu gyda'r gweithiwr.

I gefnogi gweithwyr, mae’r templedi’n canolbwyntio ar rai o’r egwyddorion hyn:

  • creu diwylliant cefnogol sy’n galluogi yn y gweithle
  • mabwysiadu ymagwedd gynhwysol at iechyd yn y gweithle
  • deall anghenion gweithwyr anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd
  • gwneud addasiadau neu newidiadau addas yn y gweithle
  • cefnogi absenoldeb salwch a dychwelyd i'r gwaith

Mae canllawiau hefyd ar y ddwy egwyddor arall:

  • datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth
  • defnyddio cyfathrebu effeithiol a hygyrch

Mae gennych hefyd ddyletswyddau o dan gyfraith iechyd a diogelwch, er enghraifft rhaid i chi ddiogelu iechyd a diogelwch gweithwyr[10]. O dan gyfraith cydraddoldeb efallai y bydd rhaid i chi ddarparu addasiadau addas yn y gweithle[11].

Fformat amgen i'r canllawiau hyn

Mae PDF y gellir ei lawrlwytho o'r canllaw hwn y gellir[12] ei argraffu.

Link URLs in this page

  1. Crëwch weithle cefnogol sy'n cefnogi ac yn galluogi https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/workplace-culture.htm
  2. Cymerwch ymagwedd gynhwysol at iechyd yn y gweithle https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/workplace-health.htm
  3. Deallwch y rhwystrau gwaith sy'n effeithio ar weithwyr https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/understand-barriers.htm
  4. Gwnewch addasiadau neu newidiadau addas yn y gweithle https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/workplace-adjustments.htm
  5. Datblygwch sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/develop-skills.htm
  6. Defnyddiwch gyfathrebu effeithiol a hygyrch https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/accessible-communication.htm
  7. Cefnogwch absenoldeb salwch a dychwelyd i'r gwaith https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/sickness-absence.htm
  8. Y gyfraithhttps://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/the-law.htm
  9. Cymorth y llywodraeth ynghylch iechyd ac anabledd cyflogeion ar GOV.UKhttps://www.support-with-employee-health-and-disability.dwp.gov.uk/support-with-employee-health-and-disability
  10. ddiogelu iechyd a diogelwch gweithwyrhttps://www.hse.gov.uk/disability/index.htm
  11. ddarparu addasiadau addas yn y gweithlehttps://www.equalityhumanrights.com/guidance/business/employing-people-workplace-adjustments
  12. PDF y gellir ei lawrlwytho o'r canllaw hwn y gellirhttps://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/talking-toolkit.htm
  13. Nesaf Tudalen Crëwch weithle cefnogol sy'n galluogi https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/workplace-culture.htm

Is this page useful?

Updated: 2023-12-07