Mae'r dudalen hon yn disgrifio arfer gorau. Nid yw'n esbonio'r gyfraith
5. Gwnewch addasiadau neu newidiadau addas yn y gweithle
Fel cyflogwr, dylech ddarparu'r un cyfleoedd i bawb sy'n gweithio i chi, gan gynnwys gweithwyr anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor. Byddwn yn cyfeirio at y ddau fel 'gweithwyr' yn y canllawiau hyn.
Gall cyfleoedd gynnwys mynediad i recriwtio, amodau gwaith, cadw swyddi a datblygu.
Siaradwch â'ch gweithwyr am addasiadau neu newidiadau yn y gweithle (gan gynnwys addasiadau rhesymol). Gall hyn eu galluogi i berfformio ar eu gorau drwy gael gwared ar rwystrau:
- corfforol
- sefydliadol
- agweddol
- cymdeithasol
Mae gennych ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod gwasanaethau yn hygyrch i bobl anabl yn ogystal â phawb arall. Os na wnewch chi, efallai y bydd gweithiwr yn gallu gwneud hawliad mewn Tribiwnlys Cyflogaeth. Mae gwybodaeth ar gael ar sut i gydymffurfio â'r gyfraith.
Siaradwch â gweithwyr am addasiadau
Gall addasiadau neu newidiadau yn y gweithle helpu i wneud y gweithle yn ddiogel ac yn gyfforddus i weithiwr. Gall y rhain hefyd helpu i fynd i'r afael â rhwystrau sy'n atal gweithwyr rhag perfformio ar eu gorau.
Siaradwch â'ch gweithiwr a chytunwch pa addasiadau neu newidiadau fyddai'n eu helpu i ffynnu yn y gweithle. Sicrhewch fod unrhyw addasiadau yn effeithiol ac yn gynaliadwy. Gall hyn gynnwys gwahanol addasiadau yn y gweithle ar gyfer gweithwyr â namau tebyg.
Dewiswch yr addasiadau cywir
Darparwch ymatebion amserol i geisiadau am addasiadau gweithle. Er enghraifft, eu cydnabod o fewn pythefnos.
Yn aml, mae’n costio llai i roi addasiadau ar waith yn y gweithle nag i recriwtio a hyfforddi aelod newydd o staff. Nid yw llawer o addasiadau cyffredin yn y gweithle yn ddrud. Er enghraifft, gallwch chi fabwysiadu:
- patrymau gwaith amgen
- meddalwedd gynorthwyol
- dychwelyd yn raddol i'r gwaith
- fformatau cyfathrebu
Mae rhagor o ganllawiau ar benderfynu ar newidiadau i helpu gweithwyr i aros i mewn, neu ddod yn ôl i weithio yng ngwasanaeth Cymorth y llywodraeth ag iechyd ac anabledd gweithwyr (GOV.UK).
Trefniadau dros dro
Gan ddibynnu ar faint o amser y gallai addasiad ei gymryd, ystyriwch drefniadau dros dro. Er enghraifft, ystyriwch absenoldeb anabledd neu adleoli dros dro i rô wahanol.
Enghraifft
Sut y gwnaeth Prif Swyddog Gweithredol ariannu addasiadau syml i gael y gorau gan weithiwr
Mae gweithiwr mewn cwmni technoleg yn bryderus. Mae'n ei chael yn anodd rhagweld pryd y bydd yn teimlo'n orbryderus, er ei fod yn mynd yn arbennig o orbryderus ar gludiant cyhoeddus. Roedd y cwmni technoleg wedi gweithio’n fwriadol ar greu gweithle cefnogol, ac roedd y gweithiwr yn teimlo’n hyderus wrth fynd at y rheolwyr i drafod ei gyflwr a’i effaith ar sut mae’n gwneud ei waith.
Beth newidiodd
Fe wnaeth Prif Swyddog Gweithredol y cwmni gamu i'r adwy i wneud rhai addasiadau. Gall y gweithiwr nawr weithio o gartref ac mae nifer y cyfarfodydd y mae'n rhaid iddo eu mynychu wedi'i dorri i leihau'r angen i deithio. Pan fydd angen iddo fynychu mae'r cwmni'n talu am dacsi.
Y manteision
Telir am gost tacsis, yn rhannol, drwy ei gyfnewid yn erbyn peidio â gorfod talu am ofod swyddfa. Mae'r gweithiwr hefyd yn cael grant ar gyfer cludiant gan y cynllun Mynediad i Waith.
Darparwch gyngor ychwanegol
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu mynediad at gyngor addas i weithwyr y mae eu sefyllfaoedd unigol yn gymhleth. Er enghraifft, gallech ddefnyddio'r cynllun Mynediad i Waith a gwasanaethau iechyd galwedigaethol.
Pasbortau addasiadau rhesymol
Cofnodwch newidiadau neu addasiadau yn y gweithle y cytunwyd arnynt mewn 'pasbort'. Gall hyn helpu pan fydd gweithwyr yn symud swyddi neu'n newid rheolwyr llinell. Gall pasbortau osgoi gorfod dyblygu gwaith a gwneud yn siŵr bod addasiadau'n cael eu cynnal.
Siaradwch â gweithwyr eraill
Gallwch esbonio newidiadau neu addasiadau yng ngweithle rhywun gyda'u caniatâd. Gall hyn helpu gweithwyr eraill i ddeall y rhesymau dros addasiadau. Bydd hyn yn golygu y gallant gefnogi cydweithwyr lle bo'n briodol.
Adolygwch newidiadau yn y gweithle
Pan yw’r gweithgaredd gwaith neu'r gweithle yn newid, adolygwch unrhyw newidiadau i'r gweithle. Efallai y bydd gweithiwr yn dweud wrthych bod ei amgylchiadau wedi newid. Os felly, adolygwch newidiadau i wneud yn siŵr eu bod yn dal yn addas at y diben.