Mae'r dudalen hon yn disgrifio arfer gorau. Nid yw'n esbonio'r gyfraith
8. Cefnogwch absenoldeb salwch a dychwelyd i'r gwaith
Fel cyflogwr, mae angen i chi gefnogi gweithwyr anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor yn ystod absenoldeb salwch a dychwelyd i'r gwaith. Byddwn yn cyfeirio at y ddau fel ‘gweithwyr’ yn y canllawiau hyn.
Mae ymyrraeth gynnar yn lleihau'r risg y bydd rhywun yn rhoi'r gorau i weithio yn gyfan gwbl yn y pen draw. Mae'r risg hon yn cynyddu po hiraf y mae gweithiwr wedi bod i ffwrdd yn sâl ac efallai y byddwch yn atebol i dalu tâl salwch statudol. Mae gwybodaeth ar gael ar sut i gydymffurfio â'r gyfraith[9].
Gall dychwelyd i'r gwaith fod yn rhan o adsefydlu gweithiwr ac iechyd tymor hwy. Gall cymorth wedi'i deilwra gynyddu'r siawns y bydd gweithiwr yn dychwelyd i'r gwaith ac yn aros mewn gwaith.
Cysylltwch yn ystod absenoldeb salwch
Pan yw gweithiwr ar absenoldeb salwch, gwnewch yn siŵr bod person priodol yn cysylltu â nhw, i wirio eu lles. Gall cyswllt helpu'r gweithiwr i deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi ac mewn cysylltiad â'r hyn sy'n digwydd pan yw i ffwrdd o'r gwaith.
Wrth gysylltu â gweithiwr am y tro cyntaf, ystyriwch eu hamgylchiadau personol. Ystyriwch hefyd y rheswm pam eu bod i ffwrdd o'r gwaith. Meddyliwch am amseru priodol, er enghraifft ystyriwch driniaeth ysbyty neu apwyntiadau. Dylech gysylltu â nhw yn ystod y pedair wythnos gyntaf y maent i ffwrdd o'r gwaith.
Os nad oes neb wedi cysylltu â'r gweithiwr yn gynnar yn ei absenoldeb, dylai person priodol estyn allan at y gweithiwr i gytuno ar y ffordd orau o gadw mewn cysylltiad.
Dylai hwn fod yn rhywun y mae'r gweithiwr yn ymddiried ynddo ac sydd â pherthynas gadarnhaol ag ef. Dylai'r cyswllt fod yn gefnogol, yn empathig a chanolbwyntio ar les y gweithiwr.
Byddwch yn hyblyg a chytunwch pa mor aml y byddwch yn cyfathrebu. Gallai hyn fod trwy alwadau, negeseuon, ymweliadau cartref neu ymweliadau â'r gweithle.
Os yw gweithiwr yn credu bod y cyswllt yn rhy aml neu'n ymwthiol, gallai ymddangos yn ymateb cosbol i absenoldeb salwch.
Darparwch gymorth iechyd galwedigaethol
Os gallwch chi, darparwch fynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol pan fydd eu hangen. Gall gwasanaethau iechyd galwedigaethol:
- cynorthwyo ag asesiadau ac addasiadau yn y gweithle
- cynghori ar atgyfeirio i wasanaethau adsefydlu a chymorth
- cynghori ar ddychwelyd i'r gwaith
- helpu i hybu iechyd da
Mae opsiynau eraill os nad oes gennych chi fynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol. Anogwch weithwyr i gysylltu â'u meddyg teulu neu ddarparwr gofal iechyd arall. Gallant atgyfeirio gweithwyr i wasanaethau cymorth. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi Nodiadau Ffitrwydd[10].
Cytunwch ar gynllun dychwelyd i'r gwaith
Cytunwch ar gynllun dychwelyd i'r gwaith addas gyda'ch gweithiwr. Dylech baratoi hwn cyn iddynt ddychwelyd i'r gwaith, gyda'u mewnbwn a'u cytundeb. Ymgorfforwch unrhyw gyngor perthnasol gan ddarparwyr gofal iechyd a gwasanaethau iechyd galwedigaethol.
Gwnewch yn siŵr bod dychwelyd i'r gwaith yn gynaliadwy drwy barhau i wneud addasiadau, er enghraifft:
- ar gyfer amodau cyfnewidiol
- addasu pwyntiau sbardun absenoldeb salwch pan fo angen
- defnyddio absenoldeb anabledd
Gall dychweliadau graddol helpu gweithiwr i ddod yn ôl i'r gwaith yn raddol gyda chymorth. Efallai na fydd angen i weithwyr fod yn ôl i'w lefelau gweithgarwch arferol i ddychwelyd i'r gwaith. Gall dychweliad â chymorth eu helpu i wella.
Adolygwch asesiadau risg ar gyfer gweithwyr os oedd eu habsenoldeb wedi'i achosi gan anaf neu afiechyd sy'n gysylltiedig â gwaith. Efallai y bydd angen addasiadau ychwanegol yn y gweithle arnoch.