Mae'r dudalen hon yn disgrifio arfer gorau. Nid yw'n esbonio'r gyfraith
7. Defnyddiwch gyfathrebu effeithiol a hygyrch
Fel cyflogwr, mae angen i chi sicrhau eich bod yn cyfathrebu mewn ffordd effeithiol a hygyrch â phawb sy'n gweithio i chi, gan gynnwys gweithwyr anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor. Byddwn yn cyfeirio at y ddau fel ‘gweithwyr’ yn y canllawiau hwn.
Gall hyn gynnwys:
- sicrhau bod gwybodaeth mewn fformat hygyrch
- cyfathrebu mewn modd amserol fel bod gweithwyr yn deall eu hawliau a'u cyfrifoldebau
- sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol ac yn ymarferol
Gall cyfathrebu mewn ffordd effeithiol a hygyrch:
- gwneud i weithwyr deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi ac yn fwy hyderus
- cefnogi dychweliad gweithiwr i'r gwaith yn ystod absenoldeb salwch, wrth gadw mewn cysylltiad
Darparwch gyfathrebiadau hygyrch
Mae angen i'ch cyfathrebu ar arferion y gweithle fod yn:
- hygyrch
- clir
- cryno
- hawdd ei ddeall
Ystyriwch fformat, cyfrwng a chynnwys unrhyw gyfathrebiadau. Gwnewch yn siŵr ei fod yn gynhwysol i'ch holl weithwyr. Er enghraifft, meddyliwch am ddefnyddio:
- Iaith Arwyddion Prydain
- Hawdd ei Ddarllen
- sain i destun
- lefelau cyferbyniad digonol rhwng cefndir a thestun
- fformatau hygyrch i ddarllenwyr sgrin/trosleisiau a thechnoleg gynorthwyol arall
Ymgynghorwch â chynrychiolwyr gweithwyr ac unrhyw grwpiau anabledd yn eich sefydliad.
Enghraifft
Annog cyfathrebu da
Annog deialog agored rhwng rheolwyr a gweithwyr fel rhan o arferion gwaith arferol.
Dylai rheolwyr fod yn sensitif bob amser a chadw sgyrsiau gyda gweithwyr yn gyfrinachol.
Gwnewch yn siŵr bod rheolwyr ond yn rhannu'r wybodaeth hon pan yw’n:
- cael ei gytuno ymlaen llaw
- cydymffurfio â gofynion diogelu data[9]
Darparwch gymorth i reolwyr
Mae angen i chi sicrhau bod rheolwyr yn cael cymorth priodol. Meddyliwch sut y gall rheolwyr gyrchu hyfforddiant neu gyngor ychwanegol os oes angen. Gallwch ddarparu hwn yn fewnol neu'n allanol, neu gyfeirio at adnoddau am ddim ar-lein.