Help us to improve the website - give your feedback.

Mae'r dudalen hon yn disgrifio arfer gorau. Nid yw'n esbonio'r gyfraith

2. Crëwch weithle cefnogol sy'n galluogi

Gall cael y diwylliant cywir yn eich gweithle gefnogi a galluogi gweithwyr anabl a gweithwyr â chyflyrau iechyd hirdymor. Byddwn yn cyfeirio at y ddau fel 'gweithwyr' yn y canllaw hwn. Gall siarad yn agored â nhw am unrhyw rwystrau y gallant eu hwynebu yn y gwaith helpu i sicrhau eich bod yn eu cefnogi.

Byddwch yn gyflogwr cefnogol

Er mwyn creu diwylliant cefnogol sy’n galluogi yn eich gweithle, gwnewch yn siŵr bod iechyd, diogelwch a chynhwysiant gweithwyr yn flaenoriaeth rheoli graidd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn drwy gydol eu cyflogaeth. Gall diwylliant cefnogol yn y gweithle fod o fudd i'r gweithlu cyfan. Defnyddiwch ymagwedd gyson a rhagweithiol at iechyd a lles pob gweithiwr. Gweithiwch ac ymgysylltwch â chynrychiolwyr gweithwyr neu rwydweithiau anabledd staff.

Dylai rheolwyr ddangos yr ymddygiadau a'r gweithredoedd cywir. Dylent ymddwyn yn gyson ac yn deg. Dylai rheolwyr, goruchwylwyr a pherchnogion fod yn hygyrch i staff. Mae angen y sgiliau ar reolwyr i wrando a chydymdeimlo â gweithwyr. Mae angen iddynt ddeall beth allai effeithio arnynt yn y gwaith a thu allan. Gwnewch yn siŵr fod eich sefydliad yn cydnabod ac yn galluogi rheoli pobl yn dda.

Cefnogwch reolwyr a gweithwyr i herio ymddygiad gwael. Mae hyn yn cynnwys arferion an-amrywiol a gwahaniaethol. Mae rheolwyr a gweithwyr sy’n cael eu cefnogi’n fwy tebygol o deimlo’n ddiogel, yn gyfforddus ac yn hyderus i siarad am rwystrau yn y gweithle sy’n eu hatal rhag ffynnu yn eu rôl.

Ystyriwch hefyd rwystrau a phroblemau posibl wrth ddylunio swyddi a'r gweithle.

Gwnewch yn siŵr bod eich arferion yn gefnogol ac yn galluogi

Parchwch breifatrwydd, cyfrinachedd ac urddas gweithwyr ym mhob addasiad ac arfer yn y gweithle.

Gwnewch yn siŵr bod unrhyw arferion yn eich sefydliad yn:

  • clir a hygyrch
  • cael eu cymhwyso'n gyson
  • cael eu hesbonio i ddechreuwyr newydd
  • cael eu hadnewyddu gyda gweithwyr presennol

Cymerwch gamau i ddeall, dileu neu leihau rhwystrau sy'n rhoi gweithwyr dan anfantais. Bydd arferion a diwylliant cywir yn y gweithle yn galluogi gweithwyr i ffynnu yn eu rôl.

Enghraifft

Cofrestrwch ar gyfer y cynllun Hyderus o ran Anabledd

Gallwch ddangos eich ymrwymiad i gydraddoldeb drwy symud ymlaen drwy lefelau'r cynllun Hyderus o ran Anabledd[9]. Mae hyn yn cefnogi cyflogwyr i wneud y gorau o'r doniau y gall pobl anabl eu cynnig i'ch gweithle.

Gall y cynllun Hyderus o ran Anabledd eich helpu i:

  • herio agweddau tuag at anabledd
  • cynyddu dealltwriaeth o anabledd
  • dileu rhwystrau i weithwyr
  • sicrhau bod gweithwyr yn cael y cyfleoedd i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau

Link URLs in this page

  1. Trosolwghttps://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/index.htm
  2. Cymerwch ymagwedd gynhwysol at iechyd yn y gweithle https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/workplace-health.htm
  3. Deallwch y rhwystrau gwaith sy'n effeithio ar weithwyr https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/understand-barriers.htm
  4. Gwnewch addasiadau neu newidiadau addas yn y gweithle https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/workplace-adjustments.htm
  5. Datblygwch sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/develop-skills.htm
  6. Defnyddiwch gyfathrebu effeithiol a hygyrch https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/accessible-communication.htm
  7. Cefnogwch absenoldeb salwch a dychwelyd i'r gwaith https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/sickness-absence.htm
  8. Y gyfraithhttps://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/the-law.htm
  9. Hyderus o ran Anableddhttps://www.gov.uk/government/collections/disability-confident-campaign#become-a-disability-confident-employer
  10. Defnyddiwch ein templed i'ch helpu i ddechrau sgwrs am greu gweithle cefnogol sy'n galluogi gyda'ch gweithwyr.https://www.hse.gov.uk/disability/assets/docs/supportive-workplace-culture-welsh.pdf
  11. Flaenorol Tudalen Trosolwg https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/index.htm
  12. Nesaf Tudalen Cymerwch ymagwedd gynhwysol at iechyd yn y gweithle https://www.hse.gov.uk/disability/languages/welsh/best-practice/workplace-health.htm

Is this page useful?

Updated: 2024-01-18