9. Y gyfraith
Mae'r tudalennau hyn yn disgrifio arfer gorau. Nid ydynt yn esbonio'r gyfraith. Ond mae cyfraith iechyd a diogelwch a chyfraith cydraddoldeb y mae'n rhaid i chi ei dilyn.
Cyfraith iechyd a diogelwch
O dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, mae'n ddyletswydd ar gyflogwr i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr a phobl eraill a allai gael eu heffeithio gan eu gweithgareddau gwaith. Mae hyn yn golygu sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bod gweithwyr ac eraill yn cael eu diogelu rhag unrhyw risgiau sy'n deillio o weithgareddau gwaith. Mae canllawiau syml ar sut i gydymffurfio â'r gyfraith iechyd a diogelwch.
Mae Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gosod nodau ac yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr roi trefniadau ar waith i reoli risgiau iechyd a diogelwch. Mae rhagor o ganllawiau ar hyn ar dudalennau gwe HSE ar gyfer gweithwyr anabl.
Cyfraith Cydraddoldeb
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu fframwaith cyfreithiol i amddiffyn hawliau unigolion a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb.
Mae'n cwmpasu hawliau gweithwyr i gael eu trin yn gyfartal mewn cyflogaeth gan gynnwys wrth wneud cais am swyddi, dyrchafiad, addasiadau rhesymol gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cyfartal, ac ymddeoliad. Mae canllawiau manwl i gyflogwyr a gweithwyr.
Cyfraith cyflogaeth arall
O dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 mae gan bob gweithiwr yr hawl gyfreithiol i ofyn am weithio hyblyg - nid rhieni a gofalwyr yn unig. Mae canllawiau manwl i gyflogwyr ar ymdrin â cheisiadau am weithio hyblyg.
Os oes gan weithiwr absenoldeb salwch, bydd Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 a Rheoliadau Tâl Salwch Statudol (Cyffredinol) 1982 yn berthnasol. Efallai y bydd eich cyflogeion yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol (SSP) am hyd at 28 wythnos, ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Mae canllawiau manwl i gyflogwyr.