1. Trosolwg
Mae pob gweithiwr yn cael eu gwarchod o dan gyfraith iechyd a diogelwch Prydain, p'un a ydynt yn gweithio ym Mhrydain Fawr yn gyfreithlon ai peidio.
Mae gan bob gweithiwr yr hawl i weithle diogel lle mae unrhyw risgiau i'w hiechyd a'u diogelwch yn cael eu rheoli'n briodol.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'ch cyflogwr amddiffyn eich iechyd, eich diogelwch a'ch lles tra'ch bod yn gweithio iddyn nhw. Nhw sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am eich diogelwch yn y gwaith felly mae gennych hawl i wybod pwy sy'n eich cyflogi. Lle nad yw hunaniaeth eich cyflogwr yn amlwg neu os nad ydych yn siŵr pwy ydyw, gofynnwch i rywun fel eich goruchwyliwr.
Mae yn gyfrifoldebau i weithwyr a chyflogwyr o dan gyfraith iechyd a diogelwch Prydain.