6. Rhagor o ganllawiau a chymorth
Os ydych chi'n gweithio yn yr economi gig neu'n gwneud gwaith dros dro, byddwch hefyd yn dod o hyd i ragor o ganllawiau yn Iechyd a diogelwch ar gyfer yr economi gig, gweithwyr asiantaeth a dros dro.
Yn ogystal â Diogelu Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, mae cyfraith Prydain hefyd yn rhoi hawliau sylfaenol i weithwyr fel cyfyngiadau ar ba mor hir y mae'n rhaid i chi weithio, amser i ffwrdd, seibiannau gorffwys a gwyliau blynyddol cyflogedig.
Ar gyfer canllawiau iechyd a diogelwch cyffredinol sydd wedi'u cyfieithu i wahanol ieithoedd, ewch i Gyhoeddiadau mewn ieithoedd eraill
Canllawiau | Disgrifiad |
---|---|
Gofynion yr Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo ar gyfer sefydlu | Bydd y wefan hon yn eich helpu i ddeall y system fewnfudo a beth yw eich hawliau a'ch cyfrifoldebau pan fyddwch yn gwneud cais |
GOV.UK | Mynediad at a gwybodaeth o ystod eang o adrannau'r llywodraeth |
Cyngres Undebau Llafur (TUC) | Cynrychioli pobl sy'n gweithio ym Mhrydain - Canllaw i'r hawliau mae gennych hawl iddynt yn y gwaith |
Cyngor Treth Incwm y DU | Cyngor y llywodraeth ar dreth os ydych chi'n dod i fyw yn y DU |
Sgiliau adeiladu | Cefnogi integreiddio gweithwyr mudol yn effeithiol. Yn rhoi manylion am sut y gallai cardiau Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) fod yn ddefnyddiol. |
Cyngor ar Bopeth | Help a chyngor lleol ar fyw a gweithio yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'n bosibl y bydd y ganolfan Cyngor ar Bopeth leol yn gallu rhoi cyflogwyr mewn cysylltiad â grwpiau cymunedol mudol am help gyda chyfieithiadau, recriwtio ac ati |
Awdurdod y Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur | Rheoleiddio busnesau sy'n cyflenwi gweithwyr yn y diwydiannau amaeth, garddwriaeth, casglu pysgod cregyn a diwydiannau prosesu a phecynnu cysylltiedig. Os oes gennych unrhyw bryderon am les gweithwyr neu ddarparwr llafur sy'n gweithredu heb drwydded cysylltwch â'r GLAA (Ffôn: 0845 602 5020). |