4. Help gyda materion iaith
Mae gan gyflogwyr ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth ddealladwy i weithwyr. Nid oes rhaid i hyn fod yn ysgrifenedig neu hyd yn oed o reidrwydd yn Saesneg, cyn belled â bod cyfarwyddiadau gwaith, risgiau, mesurau diogelwch a gweithdrefnau brys yn cael eu cyfleu'n glir i bob gweithiwr.
Nid yw cyfraith iechyd a diogelwch yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr allu siarad Saesneg, ond dylai dysgu'r iaith helpu i leihau anawsterau cyfathrebu ac fe all arbed costau cyfieithu. Gallwch wneud hyn ar gyfer siaradwyr na fedrant siarad Saesneg drwy drefniadau gweithio hyblyg sy'n rhoi amser iddyn nhw ddysgu ‘workplace English’.
Mae'n bwysig sicrhau bod gweithwyr yn gallu cyfathrebu'n effeithiol gyda'u goruchwyliwr a'u cyd-weithwyr. Mae rhai opsiynau i sicrhau cyfathrebu effeithiol pan nad yw pobl mewn gweithle i gyd yn rhugl yn yr un iaith yn cynnwys:
- gofyn i weithiwr sy'n rhannu'r un iaith frodorol ac sydd hefyd yn siarad Saesneg da i weithredu fel cyfieithydd
- ceisiwch gymorth y tu allan drwy logi cyfieithydd proffesiynol (achrededig), defnyddio meddalwedd cyfieithu proffesiynol neu offer ar-lein am ddim
- defnyddio ‘system gyfeillion’ trwy baru gweithwyr profiadol â gweithwyr mudol newydd neu ddibrofiad sy'n siarad yr un iaith
- defnyddiwch gyfathrebu heb fod ar lafar, fel fideo a sain - gallwch hefyd ddefnyddio arwyddion a symbolau sydd wedi'u cydnabod yn rhyngwladol (er enghraifft arwyddion perygl) a chynnwys signalau llaw
- defnyddio Saesneg syml, clir mewn sesiynau hyfforddi, tra hefyd yn hyfforddi goruchwylwyr fel eu bod yn gallu cyfathrebu'n glir i bobl sydd â sgiliau Saesneg cyfyngedig.