Mae'r dudalen hon yn disgrifio arfer gorau. Nid yw'n esbonio'r gyfraith

2. Crëwch weithle cefnogol sy'n galluogi

Gall cael y diwylliant cywir yn eich gweithle gefnogi a galluogi gweithwyr anabl a gweithwyr â chyflyrau iechyd hirdymor. Byddwn yn cyfeirio at y ddau fel 'gweithwyr' yn y canllaw hwn. Gall siarad yn agored â nhw am unrhyw rwystrau y gallant eu hwynebu yn y gwaith helpu i sicrhau eich bod yn eu cefnogi.

Byddwch yn gyflogwr cefnogol

Er mwyn creu diwylliant cefnogol sy’n galluogi yn eich gweithle, gwnewch yn siŵr bod iechyd, diogelwch a chynhwysiant gweithwyr yn flaenoriaeth rheoli graidd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn drwy gydol eu cyflogaeth. Gall diwylliant cefnogol yn y gweithle fod o fudd i'r gweithlu cyfan. Defnyddiwch ymagwedd gyson a rhagweithiol at iechyd a lles pob gweithiwr. Gweithiwch ac ymgysylltwch â chynrychiolwyr gweithwyr neu rwydweithiau anabledd staff.

Dylai rheolwyr ddangos yr ymddygiadau a'r gweithredoedd cywir. Dylent ymddwyn yn gyson ac yn deg. Dylai rheolwyr, goruchwylwyr a pherchnogion fod yn hygyrch i staff. Mae angen y sgiliau ar reolwyr i wrando a chydymdeimlo â gweithwyr. Mae angen iddynt ddeall beth allai effeithio arnynt yn y gwaith a thu allan. Gwnewch yn siŵr fod eich sefydliad yn cydnabod ac yn galluogi rheoli pobl yn dda.

Cefnogwch reolwyr a gweithwyr i herio ymddygiad gwael. Mae hyn yn cynnwys arferion an-amrywiol a gwahaniaethol. Mae rheolwyr a gweithwyr sy’n cael eu cefnogi’n fwy tebygol o deimlo’n ddiogel, yn gyfforddus ac yn hyderus i siarad am rwystrau yn y gweithle sy’n eu hatal rhag ffynnu yn eu rôl.

Ystyriwch hefyd rwystrau a phroblemau posibl wrth ddylunio swyddi a'r gweithle.

Gwnewch yn siŵr bod eich arferion yn gefnogol ac yn galluogi

Parchwch breifatrwydd, cyfrinachedd ac urddas gweithwyr ym mhob addasiad ac arfer yn y gweithle.

Gwnewch yn siŵr bod unrhyw arferion yn eich sefydliad yn:

  • clir a hygyrch
  • cael eu cymhwyso'n gyson
  • cael eu hesbonio i ddechreuwyr newydd
  • cael eu hadnewyddu gyda gweithwyr presennol

Cymerwch gamau i ddeall, dileu neu leihau rhwystrau sy'n rhoi gweithwyr dan anfantais. Bydd arferion a diwylliant cywir yn y gweithle yn galluogi gweithwyr i ffynnu yn eu rôl.

Enghraifft

Sut y gwnaeth rheolwr weithle cefnogol a lleihau absenoldebau

Roedd rheolwr AD newydd, mewn cwmni gweithgynhyrchu gyda 59 o weithwyr, am recriwtio a chadw mwy o staff. Sylwodd fod llawer o absenoldebau oherwydd salwch. Roedd diffyg ymddiriedaeth hefyd rhwng rheolwyr a gweithwyr.

Beth newidiodd

Gwelodd hi gyfle i wneud i’r gweithle deimlo’n fwy cynhwysol i bawb.

Fe wnaeth hi sefydlu cymorthfeydd AD wythnosol ac annog gweithwyr i ddod i siarad â hi. Fe wnaeth hi wahodd gweithwyr yn aml trwy e-bost, mewn cylchlythyrau ac yn bersonol ar lawr y ffatri i sicrhau bod y gwahoddiad yn hygyrch ac yn agored i bob gweithiwr. Yn y sesiynau, roedd hi bob amser yn agored ac yn onest gydag unrhyw un a fynychodd. Gofynnodd hi iddynt a oedd unrhyw beth y gallai'r cwmni ei wneud i'w helpu ar unrhyw lefel i wella eu profiadau yn y gwaith.

Y manteision

Mewn un gymhorthfa AD, siaradodd hi â gweithiwr a ddywedodd wrthi ei fod yn dioddef o iechyd meddwl gwael. Roedd ei wraig yn derfynol wael. Rhoddwyd absenoldeb salwch iddo a chynigiwyd cwnsela iddo. Roedd hyn yn ei gefnogi ac yn caniatáu iddo ddychwelyd i'r gwaith pan oedd yn barod.

Roedd ei gydweithwyr yn gwybod bod y gweithiwr wedi bod yn cael trafferth ymdopi. Pan welson nhw sut yr oedd wedi cael ei gefnogi, dechreuodd hyn adeiladu ymddiriedaeth rhwng rheolwyr a gweithwyr.

Cofrestrwch ar gyfer y cynllun Hyderus o ran Anabledd

Gallwch ddangos eich ymrwymiad i gydraddoldeb drwy symud ymlaen drwy lefelau'r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Mae hyn yn cefnogi cyflogwyr i wneud y gorau o'r doniau y gall pobl anabl eu cynnig i'ch gweithle.

Gall y cynllun Hyderus o ran Anabledd eich helpu i:

  • herio agweddau tuag at anabledd
  • cynyddu dealltwriaeth o anabledd
  • dileu rhwystrau i weithwyr
  • sicrhau bod gweithwyr yn cael y cyfleoedd i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau

Is this page useful?

Updated: 2024-01-18