Cyfarfodydd agored Bwrdd HSE
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymrwymedig i fod yn agored am yr hyn y mae'n ei wneud a chynhelir llawer o drafodaethau'r Bwrdd yn ei gyfarfodydd misol ar ffurf sesiwn agored, ac eithrio unrhyw fusnes cyfrinachol.
Cofrestru i ddod i gyfarfod agored
Rhestrir dyddiadau a lleoliadau cyfarfodydd y Bwrdd isod. Er mwyn cael eich derbyn i ddod i gyfarfod agored, yn gyntaf bydd yn rhaid i chi gofrestru eich diddordeb o leiaf bum diwrnod gwaith ymlaen llaw drwy gwblhau'r ffurflen gofrestru (Saesneg yn unig) - NI CHAIFF unigolion nad ydynt wedi cofrestru ymlaen llaw eu derbyn i'r cyfarfod.
Dim ond nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael ac fe'u pennir ar sail y cyntaf i'r felin. Mae gennym hefyd restr wrth gefn. Felly os ydych wedi cofrestru eisoes a byddwch yn penderfynu maes o law na allwch ddod mwyach, a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni drwy anfon e-bost i [email protected]