Mi fydd lythyr o gadarnhad am adroddiadau sydd wedi eu gyflwyno ar y We yn gael eu anfon ymlaen i'r berson sydd yn gyfrifol (e.e. cyflogwr neu'r berson sydd yn rheoli'r adeilad) o dan y Rheolau RIDDOR.
Ei ystyr yw Rheoliadau Cofnodi Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus 1995, neu yn fyr RIDDOR, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 1996 Gofynnwyd gan RIDDOR 95 I gofnodi damweiniau, afiechydon a digwyddiadau peryglus sy'n gysylltiedig a gwaith.Mae'n ymroddiedig I bob weithgaredd gwaith, ond nid yw'n ymroddiedig am bob fath o ddigwyddiad.
Mae'n ofyniad cyfreithiol I gofnodi damweiniau ac afiechyd yn y gwaith.Mae'r gwybodaeth yn galluogi'r awdurdodau gweithredol I adnabyddu sut a pham achosir risgiau, ac I ymchwilio damweiniau difrifol hefyd.Gellid yr awdurdodau gweithredol helpu a rhoi cyngor er mwyn lleihau anafiadau, , afiechyd a colledion di-bwrpas - y fwyafrif yn ddi-yswiriedig.
Os ydych yn gyflogwr, yn hunan-gyflogedig neu'n rheoli eiddo gwaith, bydd gennych ddyletswyddau o dan y Rheoliadau.
Ddim llawer! - I'r rhan fwyaf o fusnesau mae damwain, digwyddiad peryglus neu achos o afiechyd y dylid ei gofnodi yn achlysur cymharol brin.
Rhaid cofnodi:
Os bydd yna ddamwain yn gysylltiedig â'r gwaith ac: un o'ch cyflogedigion, neu berson hunan-gyflogedig yn gweithio ar eich eiddo yn cael ei ladd neu yn dioddef anaf difrifol (gan gynnwys gweithred o drais corfforol); neu aelod o'r cyhoedd yn cael ei ladd neu ei ddwyn i ysbyty; Rhaid, heb oedi, hysbysu eich awdurdod gweithredol. Gallwch ffonio neu cwblhau y ffurflen priodol ar y safle we hon.
Os oes damwain yn gysylltiedig â gwaith (gan gynnwys gweithred o drais corfforol) a bod un o'ch cyflogedigion, neu berson hunan-gyflogedig sy'n gweithio ar eich eiddo, yn dioddef anaf dros dridiau mae'n rhaid i chi hysbysu i'r awdurdod gorfodi ymhen deg diwrnod.
Mae anaf dros dridiau yn un nad yw'n ddifrifol ond sy'n golygu bod y person a anafwyd i ffwrdd o'r gwaith neu'n methu â gwneud gwaith arferol am fwy na thridiau (gan gynnwys dyddiau nad ydynt yn ddyddiau gwaith arferol).
Os bydd meddyg yn eich hysbysu bod un o'ch cyflogedigion yn dioddef o afiechyd sy'n gysylltiedig â'r gwaith sy'n afiechyd i'w gofnodi yna mae'n rhaid i chi hysbysu'r awdurdod gweithredol.
Mae afiechydon cofnodedig yn cynnwys:
Os bydd rhywbeth yn digwydd nad yw'n achosi anaf i'w gofnodi, ond a allai yn amlwg fod wedi achosi anaf o'r fath, yna gallai fod yn ddigwyddiad peryglus y dylid ei gofnodi ar unwaith (e.e. dros y ffôn neu cwblhau ffurflen ar y safle yma).
a. rhannau dal pwysau unrhyw lifft neu offer codi yn cwympo, dymchwel neu'n
methu;
b. unrhyw lestr caeëdig neu bibellau cysylltiol yn ffrwydro, cwympo neu fyrstio;
c. unrhyw ran sy'n dal pwysau unrhyw gynhwysydd llwyth yn methu;
d. peiriannau neu offer yn dod i gysylltiad â llinellau pŵer uwchben;
e. cylched fer drydanol neu orlwytho yn achosi tân neu ffrwydrad;
f. unrhyw ffrwydrad anfwriadol, camdanio, methiant gwaith dymchwel i achosi cwymp bwriadol, gwasgaru deunydd y tu hwnt i ffiniau safle, anaf a achosir gan ffrwydrad;
g. rhyddhad damweiniol o gyfrwng biolegol sy'n debygol o achosi salwch dynol difrifol;
h. methiant ar ran offer radiograffi neu arbelydru i ddadegnioli neu ddychwelyd i'w safle diogel wedi'r cyfnod amlygiad bwriadol;
i. cyfarpar anadlu yn camweithio tra'n cael ei ddefnyddio neu yn ystod cyfnod profi yn union cyn ei ddefnyddio;
j. methiant neu roi mewn perygl gyfarpar plymio, plymiwr yn cael ei ddal, ffrwydrad ger plymiwr, neu esgyniad heb ei reoli;
k. sgaffaldiau dros bum metr o uchder, neu sgaffold a godwyd ger dŵr lle gallai fod risg o foddi wedi syrthio, yn dymchwel neu yn dymchwel yn rhannol;
l. gwrthdrawiad anfwriadol rhwng trên ac unrhyw gerbyd;
m. digwyddiad peryglus wrth ymyl ffynnon (ac eithrio ffynnon ddŵr);
n. digwyddiad peryglus gerllaw pibellau;
o. unrhyw offer dal pwysau mewn ffair yn methu, neu geir neu drenau yn dod oddi ar gledrau neu'n gwrthdaro yn anfwriadol;
p. tancer ffordd sy'n cario sylwedd peryglus yn dymchwel, yn dioddef difrod difrifol, yn mynd ar dân neu'r sylwedd yn cael ei ollwng;
q. sylwedd peryglus sy'n cael ei gludo ar y ffordd yn dod i gysylltiad â thân neu yn cael ei ollwng; Mae'n rhaid cofnodi'r digwyddiadau peryglus canlynol ac eithrio mewn perthynas â gweithfannau alltraeth:
r. dymchweliad anfwriadol: unrhyw adeilad neu adeiladwaith sy'n cael ei adeiladu, ei newid neu ei ddymchwell lle bydd dros bum tunnell o ddeunydd yn syrthio; wal neu lawr mewn gweithfan; unrhyw waith ffug;
s. ffrwydrad neu dân yn achosi i waith arferol gael ei ohirio am fwy na 24 awr;
t. gollyngiad sydyn ac afreolus mewn adeilad: 100 kg neu fwy o hylif fflamadwy; 10 kg o hylif fflamadwy yn uwch na'i bwynt berwi; 10 kg neu fwy o nwy fflamadwy; neu 500 kg o'r sylweddau hyn os cânt eu gollwng yn yr awyr agored;
*rhyddhau unrhyw sylwedd a allai fod yn niweidiol i iechyd yn ddamweiniol
Nodyn: mae categorïau ychwanegol o ddigwyddiadau peryglus yn berthnasol i fwyngloddiau, chwareli, systemau trafnidiaeth perthnasol (rheilffyrdd ac ati) a gweithfannau alltraeth.
Os ydych yn gweithio yn eiddo rhywun arall ac yn cael naill ai anaf difrifol neu anaf sy'n golygu na allwch wneud eich gwaith arferol am fwy na thridiau, yna nhw fydd yn gyfrifol am hysbysu'r awdurdodau, felly, ble bo hynny'n bosibl, dylech wneud yn siwr eu bod yn gwybod amdano.
Rhaid cofnodi os ydych chi neu berson cyhoeddus yn dioddef anaf ar eich eiddo, os oes digwyddiad peryglus ar eich eiddo, neu os yw meddyg yn mynegi bod gennych cyflwr neu afiechyd sy'n gysylltiedig a gwaith.
Er hynny, os ydych yn hunan gyflogedig, ac yn dioddef anaf difrifol ar eich eiddo, does dim rhaid I chi hysbysu yn syth. Dylech chi neu rhywun sy'n gweithredu ar eich rhan cofnodi o fewn 10 ddiwrnod.
Rhaid I'r holl damweiniau, afiechydon a digwyddiadau peryglus cael eu gofnodi I'r Canolfan Cyswllt Digwyddiad. Sefydlwyd y Canolfan Cyswllt ar y 1af o Ebrill 2001 fel y man sengl I dderbyn holl digwyddiadau yn y Deyrnas Unedig.
Gallech cofnodi digwyddiad trwy y ffurfiau canlynol:
Bydd y Canolfan Cyswllt Digwyddiad yn danfon ymlaen manylion digwyddiadau I'r awdurdod gweithredu priodol, megis yr adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod os yw'ch busnes yn un :
Ar gyfer pob math arall o fusnes dylid hysbysu swyddfa ardal yr Awdurdod Gweithredol lechyd a Diogelwch.
Mae'n rhaid i chi gadw cofnod o unrhyw anaf, afiechyd neu ddigwyddiad peryglus y mae'n rhaid hysbysu'r awdurdodau yn ei gylch. . Gallwch gadw'r cofnod ar unrhyw ffurf y dymunwch, ond mae'n rhaid i hyn gynnwys y dyddiad a'r dull o gofnodi; dyddiad, amser a lle y digwyddiad, manylion personol y rhai oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad neu'r afiechyd a disgrifiad cryno o natur y digwyddiad neu'r afiechyd.
Gallwch cadw cofnodion, trwy, er engrhaifft:
Os ydych yn cofnodi y digwyddiad trwy'r teleffon neu ar y safle we, bydd y Canolfan Cyswllt Digwyddiad yn postio copi o'r cofnod a lleolwyd o fewn y safle data.Os ydych yn yn teimlo bod y manylion yn anghywir, gallwch ofyn I newid manylion y cofnod.
*Ymholiadau teleffon I HSE Infoline - 08701 545500 ·
*Ymholiadau ebost at Canolfan Gwybodaeth HSE
hseinformationservices@natbrit.com